|
Croeso, Drwy weithio mewn partneriaeth â phlwyfi, rydym yn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ein Hesgobaeth i wella ansawdd eu bywyd. Rydym yn rhan o sawl prosiect - prosiectau sy'n cynnig cefnogaeth i ddatblygu hyder, hunan-barch a sgiliau ymdopi er mwyn adeiladu ar gydberthnasau a chryfhau teuluoedd a chymunedau; prosiectau sy'n croesawu, yn rhoi gwerth ar bobl ac yn derbyn pobl; prosiectau sy'n darparu cyfleoedd i wneud ffrindiau newydd, cael sbort, rhannu amserau trist, derbyn gwybodaeth a gwella sgiliau. Mae llwyddiant y prosiectau hyn i'w briodoli i'r bobl sy'n eu cynllunio, yn eu datblygu ac yn eu defnyddio, a'u hymrwymiad hwy sy'n gwneud prosiectau Plant Dewi mor arbennig. Mae'r prosiectau wedi eu gwreiddio yn y plwyfi ac fe'u sefydlwyd o ganlyniad i angen lleol. Daw'n hoffeiriaid, aelodau'n heglwysi, arweinwyr lleol, pobl leol a phobl ifanc ynghyd i sefydlu cyfleusterau ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae'r rhwydweithiau cymdeithasol a ffurfir yn sicrhau bod cefnogaeth leol pan nad yw'r cyfleusterau ar agor. Mae'r weinidogaeth hanfodol hon, wedi ei gwreiddio'n gadarn ym mhrofiadau dydd i ddydd pobl ifanc, yn anhepgor yn y dyfodol i genhadaeth eglwys sy'n gwasanaethu.
|