|
Mae Plant Dewi wedi cynnal sawl prosiect yn yr Esgobaeth, ac mae’r rhain wedi cael eu grwpio i’r rhai sy’n cael eu cynnal drwy'r Esgobaeth gyfan (sydd i'w gweld ar y dudalen hon); a’r rhai sy'n cael eu cynnal yn y tair sir sy’n ffurfio ein Hesgobaeth (a ddangosir ar dudalennau’r Siroedd).
Denu diddordeb Pobl Ifanc Ynysig
Agor sianeli cyfathrebu
Darparodd ymchwil gan Blant Dewi yn y gorffennol dystiolaeth i ddangos bod rhai pobl ifanc yn profi'r teimlad o fod ar eu pennau eu hunain ac maent hwy yw'r unig rai â phroblemau i'w hwynebu. Teimlant na allant siarad am y modd y teimlant a dechreuant ddangos arwyddion pryder. Tynnodd yr ymchwil gyflawnwyd gyda phobl ifanc yr angen i ddarganfod ffyrdd o gyfathrebu gyda'r bobl ifanc hyn mewn modd y gallent hwy'n gysurus uniaethu ag ef ac mewn modd fyddai'n eu cymell i gael cefnogaeth oddi wrth asiantaethau cefnogi'r bobl ifanc.
Cyfathrebu drwy fideo pop
Gwahoddwyd bandiau pobl ifanc yn yr Esgobaeth i ysgrifennu cân am bwysedd ac i frwydro ymhlith ei gilydd am enillydd. Cafodd yr enillwyr “Clarity”, band o Sir Benfro, eu cân “Alone” wedi ei recordio'n broffesiynol fel fideo pop. Tynnodd y fideo sylw at achosion pwysedd fel y gwelid ef drwy lygaid pobl ifanc. Cynhyrchwyd ef gyda chymorth pobl ifanc fel ymchwilwyr siaradai â phobl ifanc eraill ynghylch effeithiau ac achosion pwysedd yn eu bywydau. Yn mynd gyda'r fideo mae pecyn gwybodaeth gweithdy sy'n helpu pobl ifanc i adnabod arwyddion pwysedd ac mae'n awgrymu ffyrdd posib o ddelio ag ef gan gynnwys cyfeirio pobl ifanc at asiantaethau cefnogi.
Cyfathrebu drwy'r radio a'r rhyngrwyd
Lansiwyd cystadleuaeth ledled yr Esgobaeth gan wahodd pobl ifanc i ysgrifennu dramâu radio ynghylch pwysedd gwledig. Roedd yn rhaid i'r testunau ddewiswyd ar gyfer y dramâu fod yn bwerus gan y defnyddid hwy i gynorthwyo pobl ifanc sy'n profi pwysedd i deimlo nad oeddent ar eu pennau eu hunain, a bod asiantaethau cefnogi lleol a llinellau cymorth cenedlaethol wrth law. Adroddodd y dramâu buddugol hanesion am feichiogrwydd yn yr arddegau, yfed mewn pybiau a disgwyliadau arholiad. Cynorthwyodd cwmni cynhyrchu proffesiynol y bobl ifanc i actio, cyfarwyddo a golygu'r sgriptiau yn barod i'w hanfon i orsafoedd radio.
Mannau cyfarfod diogel
Mae mannau diogel i bobl ifanc i gwrdd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gyfyngedig gan arwain at bobl ifanc yn segura o gwmpas y strydoedd gan eu gosod mewn sefyllfaoedd bregus. Cred Plant Dewi fod pobl ifanc yn gyfrifoldeb i ni gyd ac mae'n annog pobl ifanc i sefydlu clybiau ieuenctid. Cefnogir gwirfoddolwyr i hwyluso'r clybiau nes denir cyllid i gyflogi gweithwyr ieuenctid.
Prosiect Soffa
Mae Plant Dewi wedi mynd â soffa liwgar i fannau mewn ardaloedd gwledig lle mae pobl ifanc yn ymgasglu. Anogir y bobl ifanc i eistedd a sgwrsio am eu bywydau, a gweld os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu cael mynediad at y 10 hawl sydd gan bob unigolyn ifanc yn ôl y Cynulliad. Gyda chaniatâd y bobl ifanc, mae clip fideo yn cael ei ffilmio o’r cyfweliad. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y clipiau fideo yn cael eu troi’n ffilm fer, a fydd yn cael ei chyflwyno i arweinwyr gwleidyddol a chynghorwyr fel eu bod nhw’n gallu clywed gwir lais y bobl ifanc.
|