Ynglŷn â Plant Dewi
Yn helpu drwy gynnig cefnogaeth, derbyniad a gobaith, mae Plant Dewi yn gofalu am deuluoedd ledled de-orllewin Cymru.
Plant Dewi yw prosiect Esgobaeth Tyddewi ei hun, yn cefnogi teuluoedd yn eu cymunedau. Mae’n rhan o Gyngor Esgobaethol Tyddewi dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol (elusen rhif 244178), yn adeiladu ar dreftadaeth o dros 60 mlynedd o weithredu cymdeithasol yn yr Esgobaeth.
Ein Gweledigaeth
Ym Mhlant Dewi, ein gweledigaeth yw dyfodol lle mae pob teulu yng Ngorllewin Cymru yn cyrraedd eu llawn botensial, yn byw mewn cymunedau llewyrchus ac yn magu plant hapus, hyderus.
Ein Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw i ddarparu cefnogaeth cymunedol cynhwysol a chyfleoedd ystyrlon lle mae teuluoedd yn cael eu grymuso i dyfu’n gryfach gyda’i gilydd a’u cefnogi I adeiladu dyfodol disgleiriach i’w plant – oherwydd mae pob teulu yn bwysig.