Prosiect y Tadau

dads project

Cefnogi Tadau...

Yn cynnig cyfleoedd i dadau gymdeithasu, rhannu bwyd, rhannu profiadau a chydnabod pwysigrwydd y rôl y mae tadau yn ei chwarae yn eu teuluoedd ac yn y gymuned. Nod y prosiect yw cynyddu eu rhwydweithiau cymorth, ac mae Dad a Fi, sy’n Glwb Ar Ôl Ysgol, yn helpu i ddod â thadau a’u plant yn nes at ei gilydd.

Beth rydym yn ei wneud yn y Grwpiau Teuluoedd Gyda’n Gilydd... Beth rydym yn ei wneud ym Mhrosiect y Tadau...

Mae Prosiect y Tadau’n cynnig cefnogaeth i dadau sydd â phlant o dan 16 oed. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar goginio, rhannu sgiliau, sgyrsiau a gweithdai, garddio, gwaith cymunedol e.e. casglu sbwriel a gosod offer chwarae, a gweithgareddau corfforol fel beicio a llwybrau natur. 

supporting dads

Dewch o hyd i Grŵp Prosiect y Tadau yn eich ardal chi...