CEGC
Mae Esgobaeth Tyddewi yn cefnogi Plant Dewi a theuluoedd ledled Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.
Cyflwyno Esgobaeth Tyddewi
Pwt o hanes...
Ym 1990 dechreuodd y Cyngor ganolbwyntio ar faes gwaith i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Sefydlwyd partneriaeth â Chymdeithas y Plant, elusen genedlaethol flaenllaw, a chrëwyd prosiect o’r enw Tîm Datblygu Cymunedol Tyddewi.
Briff y tîm oedd gweithio ochr yn ochr â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu cymunedau i sefydlu cyfleusterau a fyddai’n gwella ansawdd eu bywydau.
Defnyddiwyd technegau datblygu cymunedol yn llwyddiannus i rymuso pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i newid eu bywydau drostynt eu hunain.
Yn annisgwyl yn 2001, un flwyddyn i mewn i gytundeb partneriaeth 5 mlynedd newydd rhwng yr Esgobaeth a Chymdeithas y Plant, penderfynodd y gymdeithas dynnu’n ôl o’i holl weithgarwch yng Nghymru.
Roedd y gwaith a oedd yn cael ei wneud ledled yr Esgobaeth yn helaeth ac yn rhy werthfawr i’w golli, felly cyflogodd y Cyngor staff y prosiect dan drosglwyddiad TUPE ac ailenwi’r tîm yn Plant Dewi.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae gwaith Plant Dewi yn parhau i ddatblygu ac mae’r CEGC hefyd y gweithio ar draws yr esgobaeth i gefnogi anghenion cymdeithasol eraill drwy elusennau fel Tir Dewi.