Ein Gwaith

Mae Plant Dewi yn gwneud pob ymdrech i helpu a chefnogi rhieni i adeiladu gwasanaeth cymorth cymunedol.

Beth rydym yn ei wneud i helpu...

Mae Plant Dewi wedi datblygu llawer o fentrau cefnogol i gyflawni ei chenhadaeth, o grwpiau wedi’u teilwra’n benodol i fodloni anghenion tadau, rhieni ifanc a phobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghysbell, i wasanaethau cymorth cymunedol ehangach i deuluoedd. Mae’r prosiectau mewn ardaloedd lle mae pwysau enfawr ar fywyd teuluol, sy’n bygwth eu cynhwysiant yn y gymuned, eu dyheadau a’u gobeithion.

Mae’r prosiectau’n llefydd diogel sy’n cynnig lle i orffwys am eiliad mewn byd prysur a meddwl am y daith. Maen nhw’n llefydd lle gall rhieni gael trefn ar bethau, gwneud ffrindiau, sgwrsio am faterion sy’n bwysig iddyn nhw, rhoi a chael cefnogaeth, ac annog ei gilydd. Gyda’i gilydd gall rhieni fagu’r cryfder i ddod o hyd i ffordd ymlaen mewn amgylchedd sy’n seiliedig ar ffydd a derbyniad rhwng y naill berson a’r llall; amgylchedd sy’n caniatáu camgymeriadau, sy’n creu lle ar gyfer maddeuant ac sy’n dangos ewyllys da fel y gall teuluoedd symud ymlaen yn hyderus gyda gwybodaeth, sgiliau a chymhelliant newydd.

Canolfannau Teulu...

Lleoliadau gofalgar lle mae rhieni’n cael eu cefnogi i dyfu’n bersonol, datblygu perthnasau cadarnhaol â’u plant, teuluoedd a chymunedau, dysgu mwy am ofal plant, datblygu ymdeimlad o berthyn a gwella eu lles.

Family centre
young parents hub

Grwpiau Teuluoedd Gyda’n Gilydd...

Yn ymgysylltu â rhieni i greu teulu estynedig i gefnogi bywyd teuluol, gan integreiddio teuluoedd sydd wedi’u hallgáu yn eu cymunedau lleol drwy gymorth cyfoedion a chyfeillgarwch.

Cefnogi Tadau...

Prosiect sy’n cynnig cyfleoedd i dadau gymdeithasu, rhannu bwyd, rhannu profiadau, cydnabod pwysigrwydd y rôl y mae tadau yn ei chwarae yn eu teuluoedd ac yn y gymuned a chynyddu eu rhwydweithiau cymorth. Mae Dad a Fi, sy’n Glwb Ar Ôl Ysgol, hefyd yn helpu i ddod â thadau a’u plant yn nes at ei gilydd.

supporting dads
family centres

Canolfannau Rhieni Ifanc...

Yn cynnig rhwydweithiau cyfeillgarwch, cymorth gan gymheiriaid, cyfleoedd i ddatblygu dyheadau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â chefnogaeth i rieni ifanc yn eu rôl ofalu newydd ac fel pobl ifanc.

Banc Bwndel Babi...

Mewn partneriaeth ag Undeb y Mamau, mae’n gwneud bywyd bach yn haws i rieni ifanc newydd/sy’n disgwyl ac sydd mewn angen.  Mae’r Banc Bwndel Babi yn cynnig adnoddau ac offer hanfodol i groesawu babi newydd i mewn i gartref y teulu, gan leddfu gofidion rhieni ifanc ynghylch sut y gallant fforddio’r pethau hyn.

baby bundle banks

Pob prosiect gan Plant Dewi...