Polisi Cwcis
Gweithredir y wefan hon www.plantdewi.org.uk (y “Safle”) gan CEGC Tyddewi Plant Dewi o 21 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BH y cyfeirir ato hefyd yn y Datganiad Cwcis hwn fel “ni” neu “ein”. Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Dylai’r Datganiad Cwcis gael ei ddarllen ochr yn ochr â’n Datganiad Preifatrwydd a’n Telerau Defnydd ac mae’n esbonio beth yw cwcis a sut a pham y gallant gael eu storio a’u cyrchu ar eich dyfais pan fyddwch yn defnyddio’r Safle hwn.
Beth yw cwcis?
Mae cwcis yn ffeiliau testun sy’n cynnwys swm bach o ddata, fel arfer cyfres unigryw o lythrennau a rhifau. Maen nhw’n cael eu defnyddio’n gyffredin ar y Rhyngrwyd ac yn cael eu storio a’u cyrchu ar eich dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan (gan gynnwys y Safle hwn). Mae hyn yn galluogi’r wefan i adnabod eich ymweliad o blith holl ddefnyddwyr eraill y wefan. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.allaboutcookies.org a www.youronlinechoices.eu.
Sut mae’r Safle hwn yn defnyddio cwcis?
Mae’r Safle hwn yn defnyddio’r cwcis canlynol at y dibenion canlynol:
Cwcis Hollol Angenrheidiol (Categori Cwcis 1) – Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i’ch galluogi i symud o gwmpas y wefan a defnyddio ei nodweddion. Mae angen y cwcis hyn ar gyfer rhai o ofynion gweithredol y wefan, fel cael mynediad i rannau diogel.
Cwcis Perfformiad (Categori Cwcis 2) – Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o le y daeth ymwelwyr i’r safle a’r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ystadegau ar batrymau pori ein defnyddwyr fel y gallwn wella’r Safle.
Cwcis Swyddogaethol (Categori Cwcis 3) – Mae’r cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i adnabod porwr defnyddiwr wrth iddo fynd o dudalen i dudalen ar y wefan. Mae’n gwci sesiwn, sy’n golygu y caiff y cwci ei ddileu pan fyddwch yn gadael y Safle. Mae’n rhan allweddol o feddalwedd y wefan ac yn cael ei ddefnyddio i roi gwybod i’r gweinydd pa ddefnyddwyr sydd ar y Safle ar unrhyw adeg a gwneud rhannau penodol o’r Safle’n haws eu defnyddio (er enghraifft, storio dewisiadau tudalen fel y lliwiau a ddewisir ar gyfer eich ymweliad, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o’n digwyddiadau ar-lein neu’n gwneud cais ar-lein am un o’n rolau hyfforddai neu leoliad).
Cyfuno’r wybodaeth cwcis gyda data arall am eich cyfrifiadur
Pan fyddwch yn cyrraedd y Safle, gallem hefyd gasglu gwybodaeth, lle mae ar gael, am eich cyfrifiadur at ddibenion gweinyddu’r system, megis eich cyfeiriad IP, system weithredu a math y porwr. Gall y wybodaeth hon gael ei chyfuno â’r data rydym yn ei gasglu drwy’r cwcis Google Analytics uchod. Mae’r wybodaeth hon yn ddata ystadegol ar batrymau pori ein defnyddwyr ac nid ydyw, yn gyffredinol, yn datgelu pwy yw ein defnyddwyr.
Eich cydsyniad i ddefnyddio cwcis
Drwy ddefnyddio’r Safle hwn, rydych yn cytuno y gallwn storio a chyrchu’r cwcis uchod ar eich dyfais.
Gwrthod neu dynnu’n ôl eich cydsyniad i’r defnydd o gwcis
Gallwch wrthod derbyn cwcis drwy newid y gosodiadau ar eich porwr rhyngrwyd. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny, cyfeiriwch at adran ‘help’ eich porwr neu ewch i www.allaboutcookies.org. Noder, os byddwch yn addasu gosodiadau eich porwr rhyngrwyd i wrthod gosod cwcis, efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad i neu ddefnyddio rhai rhannau o swyddogaethau’r Safle’n llawn (fel methu â chwblhau’r ffurflen gais ar-lein yn adran recriwtio hyfforddeion y Safle).
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein harferion cwcis, cysylltwch â ni yn info@plantdewi.co.uk neu ysgrifennwch atom yn 21 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BH.
Gallai’r Datganiad Cwcis hwn, y Datganiad Preifatrwydd a/neu’r Telerau Defnydd gael eu diwygio gennym ni ar unrhyw adeg. Gwiriwch y dudalen hon o bryd i’w gilydd i gadarnhau unrhyw newidiadau. Cafodd ei ddiwygio ddiwethaf ar 20.12.2021.