Canolfannau Teulu
Canolfannau Teulu...
Lleoliadau gofalgar lle mae rhieni’n cael eu cefnogi i dyfu’n bersonol, datblygu perthnasau cadarnhaol â’u plant, teuluoedd a chymunedau, dysgu mwy am ofal plant, datblygu ymdeimlad o berthyn a gwella eu lles.
Beth rydym yn ei wneud mewn Canolfannau Teulu...
Mae’r canolfannau teulu’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i deuluoedd â phlant cyn ysgol yn ystod y tymor ac i blant hyd at 11 oed yn ystod y gwyliau ysgol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys coginio, sgyrsiau rhieni, crefftau, amser stori, gweithgareddau corfforol, sesiynau cerdded a chlonc, garddio, gweithgareddau ysgol goedwig, chwarae anniben, sesiynau synhwyrau, grwpiau babanod, grwpiau bwydo ar y fron, maethu a chymorth diddyfnu, yn ogystal â chyrsiau fel massage babanod, iaith a chwarae, Helpu Fi, Helpu Ti, Paratoi i Fod yn Rhiant, GroBrain, Babbling Babies a Little Stars.