Newyddion

Adroddiad Blynyddol

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2023 – 2024 yma

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023 yma

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2021 – 2022 yma

Datganiad i'r Wasg

Dydd Mawrth 9fed Medi 2025

PLANT DEWI YN SICRHAU CYLLID AR GYFER GRWPIAU CEFNOGI TEULUOEDD 

Rydym ni, yn Plant Dewi, yn falch iawn o gyhoeddi bod rhaglen Pawb a’i Le Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £398,708 i ariannu ein prosiect ‘Cymunedau Cysylltiedig’ o Hydref 2025 am 3 mlynedd.  


Bydd y grant hwn yn ein galluogi i barhau gyda’n Grwpiau Teuluoedd Gyda’n Gilydd yn Cwmgors a Cross Hands ac ehangu’r cynnig hwn yn Brynamman, Llanymddyfri ac Hendy Gwyn ar Daf, ac i barhau gyda’n Grwpiau Rhieni Ifanc yn Rhydaman a Chaerfyrddin.  

 

Bydd ein grwpiau, sy’n rhedeg ar hyn o bryd am ryw awr a hanner, yn cael eu hymestyn i 3 awr gan sicrhau y bydd cysylltiadau hanfodol yn cael eu gwneud ymhlith y cymunedau rydym yn ei gweithio ynddynt er mwyn cysylltu teuluoedd â’u hardal leol.  

 

Bydd mwy o gefnogaeth hefyd ar gael trwy ein cynnig un i un i rieni o dan 26, gan roi cyfle iddynt weithio gyda phobl allweddol i symud ymlaen a chysylltu â’u grŵp cymorth teulu a’u cymuned leol.  

 

Drwy weithio gyda theuluoedd a phobl allweddol, byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau cymunedol i ddod â phobl at ei gilydd i fwynhau’r hyn sydd ar gael yn lleol. 

 

Trwy’r prosiect hwn, rydym am leihau arwahanrwydd, cynyddu hyder, datblygu sgiliau a gwella perthynas teuluoedd a chymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.  

 

Edrychwn ymlaen at rannu mwy gyda chi am ein digwyddiadau lansio yn y misoedd i ddod. 

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Plant Dewi ar 01267 221551, info@plantdewi.co.uk neu ewch i’n gwefan www.plantdewi.org.uk 

Dydd Mercher 5 Mawrth 2025

Bydd teuluoedd â babanod yn derbyn help a chefnogaeth drwy’r Banc Bwndel Babi Plant Dewi diolch i Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru.

 

Bydd cannoedd o deuluoedd sydd â babanod o bob rhan o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn derbyn cyflenwadau hanfodol ar gyfer eu plentyn diolch i grant gan Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru i elusen Plant Dewi.

Bydd y grant o £60,000 yn cefnogi’r prosiect Banc Bwndel Babi i barhau i ddosbarthu eitemau hanfodol mawr eu hangen i deuluoedd â babanod dan 12 mis oed sy’n ei chael hi’n anodd prynu dillad, pethau ymolchi, blancedi, cotiau a bygis ac ati. Bydd y prosiect yn cael atgyfeiriadau gan deuluoedd ac asiantaethau ar draws y rhanbarth i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw fabi fynd hebddynt.

Rhoddodd Banc Bwndel Babi Plant Dewi 308 i deuluoedd mewn angen yn 2024 ac mae disgwyl i hyn barhau am ddwy flynedd arall diolch i’r Seiri Rhyddion.

Bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau teuluoedd drwy roi’r eitemau sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu babi, i leihau’r straen a phoeni am yr hyn a ddylai fod yn amser hapus, gan groesawu ei fabi i’r teulu. Yn ogystal â’r bwndel, bydd Plant Dewi hefyd yn cyfeirio teuluoedd at asiantaethau ategol yn eu hardal er mwyn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion.

Bydd y grant yn ariannu cyflogau a stoc ar gyfer Banc Bwndel Babi am ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwn, mae Plant Dewi yn gobeithio adeiladu ar nifer y canolfannau ym mhob sir a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr i gefnogi gyda’r galw cynyddol am y prosiect. Mae gwirfoddolwyr wrth law i helpu i ddidoli rhoddion yn ogystal â rhoi bwndeli pwrpasol at ei gilydd, yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen ar y teulu.

Mae’r Banc Bwndel babi yn derbyn rhoddion o eitemau newydd a gwerthfawr o ansawdd da gan deuluoedd a chefnogwyr ar draws y rhanbarth ac yn fwy diweddar, mae nifer o grwpiau wedi bod yn gwau ar gyfer y prosiect, yn gwneud bagiau ac yn trefnu digwyddiadau codi arian i fynd allan a phrynu stoc mawr ei angen.

Mae tua 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac roedd bron i 57 y cant o’r atgyfeiriadau a dderbyniwyd am bwndel y llynedd gan deuluoedd a oedd yn wynebu anawsterau ariannol. Ymhlith y rhesymau eraill a nodwyd am atgyfeiriadau roedd cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, problemau iechyd cyffredinol, diffyg cefnogaeth deuluol a byw mewn llety dros dro ac o’r rheini, roedd 42 y cant yn rhieni ifanc, o dan 26 oed. Roedd pob un o’r teuluoedd hynny yn wynebu rhai heriau gan olygu eu bod yn gorfod estyn allan i Blant Dewi.

Daw’r grant gan Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru drwy’r Sefydliad Elusennol Masonaidd, sy’n cael ei ariannu gan Seiri Rhyddion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Dywedodd Rheolwr Plant Dewi, Catrin Eldred: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru am eu grant hael. Mae Plant Dewi wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd ar draws siroedd Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro am 22 mlynedd ac ers sefydlu’r prosiect Banc Bwndel Babi yn 2016, rydym wedi gweld y galw am ein gwasanaethau’n cynyddu’n fawr. Mae’r grant hwn yn ein galluogi i sicrhau’r Banc Bwndel Babi am ddwy flynedd arall, ar adeg pan rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd yn wynebu mwy o galedi ariannol.

Dywedodd James Ross o Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu helpu Plant Dewi gyda’u cymorth hanfodol i deuluoedd â babanod newydd. P’un a yw’n darparu dillad babanod, cotiau a phramiau, neu’n eu helpu i gael mynediad at wasanaethau hanfodol gan asiantaethau eraill, mae gwaith gwych yr elusen hon wedi helpu cannoedd o deuluoedd o bob rhan o’r rhanbarth.”

Cyfryngau Cymdeithasol