CEGC

Mae Esgobaeth Tyddewi yn cefnogi Plant Dewi a theuluoedd ledled Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.

st davids diocese

Cyflwyno Esgobaeth Tyddewi

Mae Cyngor Esgobaethol Tyddewi dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol yn elusen gofrestredig (244178) a’i chylch gwaith yw nodi ardaloedd o anghenion cymdeithasol a gweithredu i fodloni’r anghenion hynny. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phawb sy’n dioddef o amddifadedd cymdeithasol ledled Esgobaeth Tyddewi – sy’n cynnwys Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro – waeth beth fo’u hil, crefydd, cred, rhywedd neu oedran.

Pwt o hanes...

Ym 1990 dechreuodd y Cyngor ganolbwyntio ar faes gwaith i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Sefydlwyd partneriaeth â Chymdeithas y Plant, elusen genedlaethol flaenllaw, a chrëwyd prosiect o’r enw Tîm Datblygu Cymunedol Tyddewi.

Briff y tîm oedd gweithio ochr yn ochr â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn eu cymunedau i sefydlu cyfleusterau a fyddai’n gwella ansawdd eu bywydau.

Defnyddiwyd technegau datblygu cymunedol yn llwyddiannus i rymuso pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i newid eu bywydau drostynt eu hunain.

Yn annisgwyl yn 2001, un flwyddyn i mewn i gytundeb partneriaeth 5 mlynedd newydd rhwng yr Esgobaeth a Chymdeithas y Plant, penderfynodd y gymdeithas dynnu’n ôl o’i holl weithgarwch yng Nghymru.

Roedd y gwaith a oedd yn cael ei wneud ledled yr Esgobaeth yn helaeth ac yn rhy werthfawr i’w golli, felly cyflogodd y Cyngor staff y prosiect dan drosglwyddiad TUPE ac ailenwi’r tîm yn Plant Dewi.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae gwaith Plant Dewi yn parhau i ddatblygu ac mae’r CEGC hefyd y gweithio ar draws yr esgobaeth i gefnogi anghenion cymdeithasol eraill drwy elusennau fel Tir Dewi.

st davids diocese history