Codi arian gyda Plant Dewi

Bob blwyddyn mae angen help Plant Dewi ar fwy a mwy o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn ne-orllewin Cymru.

Mae angen eich cymorth chi, mewn pa bynnag ffurf, fel y gallwn fod yn gefn i’r teuluoedd hyn yn eu cymunedau lleol.

fundraising plant dewi

Am daliadau rhodd untro, defnyddiwch ein tudalen LocalGiving gan ddefnyddio’r botwm isod

I drefnu rhodd misol, lawrlwythwch ein ffurflen Archeb Sefydlog isod a’i hanfon yn ôl atom ni. Mae’r holl fanylion wedi’u cynnwys yn y ddogfen:  Ffurflen Archeb Sefydlog

Oeddech chi’n gwybod pryd bynnag y byddwch yn prynu unrhyw beth ar-lein – o’ch siop wythnosol i’ch gwyliau blynyddol – y gallech fod yn codi rhoddion am ddim i Plant Dewi gyda easyfundraising?

 

Mae dros 7,000 o frandiau ar y bwrdd yn barod i wneud cyfraniad – gan gynnwys eBay, Argos, John Lewis, ASOS, Booking.com ac M&S – ac ni fydd yn costio ceiniog yn ychwanegol i’n helpu i godi arian.

 

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:

1. Ewch i easyfuraising/PlantDewi ac ymunwch am ddim.

2. Bob tro y byddwch chi’n siopa ar-lein, ewch i easyfundraising yn gyntaf i ddod o hyd i’r safle rydych chi ei eisiau a dechrau siopa.

3. Ar ôl i chi wirio, bydd y brand yn gwneud cyfraniad i Plant Dewi heb unrhyw gost ychwanegol i chi!

 

Nid oes unrhyw ddalfeydd na thaliadau cudd a bydd Plant Dewi yn ddiolchgar iawn am eich rhoddion.

 

Diolch am eich cefnogaeth.

Gallwch chi helpu Plant Dewi mewn nifer o ffyrdd:

  • Drwy gynnal Cristingl
  • Cynnal gwasanaeth Carolau
  • Prynu a/neu werthu ein cardiau Nadolig, papur lapio a chalendrau Adfent

Drwy godi arian i ni – drwy gael eich noddi i wau, dathlu ‘pen-blwydd mawr’, cymryd rhan mewn ras, cynnal bore coffi neu drefnu digwyddiad codi arian arall. Mae yna wastad rywbeth y gallwch ei wneud i’n helpu i gyrraedd mwy o deuluoedd yn ne-orllewin Cymru.

Fundraising charity boxes plant dewi

Gallai rhodd bach hyd yn oed helpu i wneud gwahaniaeth mawr yn Plant Dewi

  • Drwy wneud rhodd misol – mae’n hawdd trefnu hyn

    defnyddiwch y Ffurflen Archeb Sefydlog

  • Drwy wneud rhodd untro
    drwy arian parod neu siec yn daladwy i Gronfa Plant Dewi CEGC Tyddewi, a’i hanfon i Plant Dewi, 21 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BH
  • Drwy ddefnyddio ein tudalen LocalGiving 
  • Trwy gofrestru ar gyfer ein cyfrif easyfundraising pan fyddwch yn siopa ar-lein 
  • Drwy roi arian er cof am un o’ch anwyliaid
  • Drwy adael rhodd yn eich ewyllys
  • Neu drwy fod yn un o ddosbarthwyr ein blychau cartref – gwnewch ffrindiau newydd wrth gasglu a chyfrif yr arian sy’n cael ei roi yn y blychau

Dilynwch ein tudalen Facebook i weld beth sy’n digwydd a bod yn un o’r cyntaf i gael gwybod i’n helpu i ledaenu’r gair yn gyflymach.

Cofiwch, bydd eich rhodd werth 25% yn fwy, heb unrhyw gost ychwanegol i chi, os cwblhewch ein ffurflen Cymorth Rhodd.