Telerau ac Amodau
Croeso i www.plantdewi.org.uk (y “Safle”). Os parhewch i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â – a bod yn rhwym wrth – y telerau ac amodau defnydd canlynol, sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas CEGC Tyddewi Plant Dewi gyda chi mewn perthynas â’r wefan hon. Os ydych chi’n anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan.
Mae’r term ‘CEGC Tyddewi Plant Dewi’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan, y mae ei gyfeiriad cofrestredig yn:
CEGC Tyddewi Plant Dewi
21 Heol y Brenin
Caerfyrddin
SA31 1BH
Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu arsylwr ein gwefan.
Mae’r defnydd o’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnydd canlynol:
- Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon at eich gwybodaeth a’ch defnydd cyffredinol chi yn unig. Gall newid heb rybudd.
- Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os caniatewch i gwcis gael eu defnyddio, gall gwybodaeth bersonol gael ei storio gennym i’w defnyddio gan drydydd partïon.
- Nid ydym ni nac unrhyw drydydd partïon yn darparu unrhyw warant na sicrwydd o ran cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a ganfyddir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai unrhyw wybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydym wedi ein heithrio rhag unrhyw atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau neu wallau i’r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith.
- Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich risg eich hun, ac ni fyddwn yn atebol amdano. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol.
- Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n berchen neu wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i’r, dyluniad, gosodiad, edrychiad, golwg a graffeg. Ni chaniateir atgynhyrchu, ac eithrio yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n ffurfio rhan o’r telerau ac amodau hyn.
- Cydnabyddir pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon nad yw’n eiddo neu wedi’i drwyddedu i’r gweithredwr ar y wefan.
- Gall defnydd anawdurdodedig o’r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
- O bryd i’w gilydd, gallai’r wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er eich hwylustod i ddarparu rhagor o wybodaeth. Nid ydynt yn arwydd ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y wefan/gwefannau y ceir dolenni iddynt.
- Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o ddefnydd o’r fath o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.