Cwynion & Data
O dan y canllawiau GDPR newydd, gallwch ofyn am y rhesymau dros brosesu data personol, disgrifiad o’r data personol sy’n cael ei gadw, pwy sydd/fydd yn derbyn eich data personol a/neu fanylion am darddiad eich data os na chafodd ei gasglu gennych chi.
Drwy gysylltu i wneud cais am ddata o’r fath, bydd angen prawf adnabod arnom a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 28 diwrnod gyda’ch data neu amserlen o ran pryd y dylech dderbyn y data y gofynnwyd amdano. Mae gennym hawl i hyd at 3 mis i ymateb gyda’ch data, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w gael atoch chi cyn hynny. Nid oes ffi i wneud cais am fynediad i’ch data, fodd bynnag, gallai fod yn rhaid i chi dalu ffi weinyddol fechan os yw eich ceisiadau yn ddi-sail, yn ormodol neu’n ailadroddus.
Os hoffech wneud cais am y data personol sydd gennym ni, CEGC Tyddewi Plant Dewi, amdanoch chi, neu os hoffech wneud cais i ddata o’r fath gael ei ddileu, cysylltwch â ni:
E-bost: Info@plantdewi.co.uk
Ffôn: 01267 221 551
Post: 21 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BH
Byddwn yn ceisio ymateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith o dderbyn eich cais.
Fel arall, os oes gennych gŵyn, cysylltwch â ni i drafod y mater.